Jeremiah 41

1Yna yn y seithfed mis
41:1 seithfed mis Tishri, neu Ethanim, sef seithfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Medi i ganol Hydref.
dyma Ishmael (mab Nethaneia ac ŵyr i Elishama) yn mynd i gyfarfod Gedaleia fab Achicam yn Mitspa. Roedd deg o ddynion eraill gydag e. (Roedd Ishmael yn perthyn i'r teulu brenhinol, ac roedd wedi bod yn un o brif swyddogion y brenin Sedeceia.) Roedden nhw'n cael pryd bwyd gyda'i gilydd yn Mitspa.
2Ond yn sydyn dyma Ishmael a'r dynion oedd gydag e yn codi ac yn tynnu eu cleddyfau a lladd Gedaleia, y dyn oedd brenin Babilon wedi ei benodi i reoli'r wlad. 3Lladdodd Ishmael hefyd bob un o swyddogion Jwda oedd gyda Gedaleia yn Mitspa, a rhai milwyr o Babilon oedd yn digwydd bod yno.

4Y diwrnod wedyn, cyn i neb glywed fod Gedaleia wedi ei lofruddio, 5dyma wyth deg o ddynion yn cyrraedd yno o Sichem, Seilo a Samaria
41:5 Sichem, Seilo a Samaria Tair canolfan addoli bwysig yn hen deyrnas y gogledd, sef Israel
. Roedden nhw wedi siafio eu barfau, rhwygo eu dillad a thorri eu hunain â chyllyll, ac yn dod ag offrymau o rawn ac arogldarth i'w gyflwyno i'r Arglwydd yn y deml yn Jerwsalem.
6Aeth Ishmael allan i'w cyfarfod nhw. Roedd yn cymryd arno ei fod yn crïo. A pan ddaeth atyn nhw, dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dewch i weld Gedaleia fab Achicam.” 7Ond pan aethon nhw i mewn i'r ddinas, dyma Ishmael a'r dynion oedd gydag e yn eu lladd nhw hefyd a taflu eu cyrff i bydew. 8Llwyddodd deg ohonyn nhw i arbed eu bywydau trwy ddweud wrth Ishmael, “Paid lladd ni. Mae gynnon ni stôr o wenith, haidd, olew a mêl wedi ei guddio mewn cae.” Felly wnaeth Ishmael ddim eu lladd nhw gyda'r lleill.

9Roedd y pydew lle taflodd Ishmael gyrff y dynion laddwyd yn un mawr. (Dyma'r pydew oedd Asa
41:9 Asa 911 i 870 CC
, brenin Jwda, wedi ei adeiladu pan oedd yn amddiffyn y ddinas rhag Baasha
41:9 Baasha 909 i 886 CC
, brenin Israel.) Ond roedd Ishmael wedi llenwi'r pydew gyda'r cyrff!
10Yna dyma Ishmael yn cymryd pawb oedd yn Mitspa yn gaeth – roedd hyn yn cynnwys merched o'r teulu brenhinol, a phawb arall oedd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, wedi eu gosod dan awdurdod Gedaleia fab Achicam. Cymerodd Ishmael nhw i gyd yn gaeth a cychwyn ar ei ffordd yn ôl i wlad Ammon.

11Pan glywodd Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin am y pethau erchyll oedd Ishmael fab Nethaneia wedi eu gwneud, 12dyma nhw'n mynd â'u milwyr i ymladd yn ei erbyn. Cawson nhw hyd iddo wrth y pwll mawr yn Gibeon
41:12 Gibeon Roedd Gibeon ryw 6 milltir i'r gogledd-orllewin o Jerwsalem (gw. 2 Samuel 2:13)
.
13Roedd y bobl oedd Ishmael wedi eu cymryd yn gaethion o Mitspa wrth eu boddau pan welon nhw Iochanan a swyddogion eraill y fyddin gydag e. 14Dyma nhw'n troi a mynd drosodd at Iochanan fab Careach. 15Ond llwyddodd Ishmael fab Nethaneia ac wyth o ddynion eraill i ddianc a croesi drosodd i wlad Ammon.

16Dyma Iochanan fab Careach, a swyddogion eraill y fyddin oedd gydag e, yn arwain y bobl oedd wedi eu hachub i ffwrdd. (Roedd dynion, gwragedd a phlant, a swyddogion y llys yn eu plith, sef y bobl roedd Ishmael fab Nethaneia wedi eu cymryd yn gaeth o Mitspa ar ôl llofruddio Gedaleia fab Achicam.) Ar ôl gadael Gibeon 17dyma nhw'n aros yn Llety Cimham, sydd wrth ymyl Bethlehem
41:17 Bethlehem Roedd Bethlehem ryw chwe milltir i'r de o Jerwsalem, ar y ffordd oedd yn arwain i'r Aifft.
. Y bwriad oedd mynd i'r Aifft
18i ddianc oddi wrth y Babiloniaid. Roedd ganddyn nhw ofn beth fyddai'r Babiloniaid yn ei wneud am fod Ishmael fab Nethaneia wedi llofruddio Gedaleia, y dyn oedd brenin Babilon wedi ei benodi i reoli'r wlad.

Copyright information for CYM